2 Tachwedd 2015
Annwyl Weinidog
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17
Hoffwn eich gwahodd i gyfarfod o'r Pwyllgor ddydd Mercher 13 Ionawr 2016 i roi tystiolaeth mewn cysylltiad â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17.
Disgwylir i'r sesiwn dystiolaeth bara awr a hanner, gan ddechrau am 9.00. Cynhelir y cyfarfod yn Ystafell Bwyllgora 2 yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mae Caerdydd. Byddai'n ddefnyddiol pe gallech ddarparu papur dwyieithog i'r Pwyllgor mewn perthynas â'r gyllideb ddrafft erbyn dydd Mawrth 15 Rhagfyr. Byddai'r Pwyllgor yn arbennig o ddiolchgar o gael gwybodaeth am y materion cyllidebol a amlygir yn yr atodiad i'r llythyr hwn.
Yn gywir
Christine Chapman AC
Cadeirydd
Atodiad
Cais gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus ddarparu gwybodaeth i lywio'r gwaith o graffu ar gyllideb ddrafft 2016-17
Yr adroddiad ar gyllideb y llynedd
Yn ystod y gwaith o graffu ar gyllideb ddrafft 2014-15, croesawodd y Pwyllgor Cyllid y gwelliannau i'r ffordd y cyflwynir y gyllideb. Roedd y rhain yn adeiladu ar waith a ddechreuwyd y llynedd. Fodd bynnag, argymhellodd y dylai’r gwaith hwn barhau er mwyn sicrhau bod dyraniadau'r gyllideb yn cyd-fynd yn fwy eglur fyth ag ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu.
Fel y llynedd, hoffai'r Pwyllgor gael y llinellau gwariant unigol sy'n berthnasol i'r Pwyllgor hwn, ar gyfer eich portffolio chi.
Ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu
O ran yr ymrwymiadau yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru sydd o fewn eich portffolio chi ac sy'n berthnasol i gylch gwaith y Pwyllgor hwn, byddai'r Pwyllgor yn gwerthfawrogi cael gwybodaeth mewn cysylltiad â'r canlynol:
Polisïau allweddol
Yn dilyn ei waith craffu ar y gyllideb ddrafft y llynedd, hoffai'r Pwyllgor gael gwybodaeth am y canlynol yn benodol:
· natur y trafodaethau yr ydych wedi'u cael â llywodraeth leol eleni ynghylch y setliad y mae awdurdodau lleol yn debygol o'i gael yn 2016-17, gan gynnwys manylion ynghylch pryd gynhaliwyd y trafodaethau hynny;
· sut y mae’r oedi cyn cyhoeddi cyllideb ddrafft 2016-17 am effeithio ar brosesau cyllidebu awdurdodau lleol, a beth ydych chi’n ei wneud i liniaru’r effaith hon;
· sut y mae'r ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i wella 'dealltwriaeth o'r cysylltiadau rhwng perfformiad awdurdodau lleol a'r cyllid a ddarperir ar eu cyfer' wedi'i ddefnyddio i 'ddyrannu cyllid yn fwy effeithiol' eleni;
· o ystyried y gellid disgrifio llawer o wasanaethau llywodraeth leol fel rhai ataliol eu natur, sut y rhoddwyd ystyriaeth i hyn wrth benderfynu ar y dyraniadau ar gyfer llywodraeth leol o'u cymharu â dyraniadau o dan y Prif Grwpiau Gwariant eraill;
· a yw'r broses o ddiwygio llywodraeth leol wedi dylanwadu ar eich dyraniadau cyllideb mewn unrhyw ffordd, ac os felly, sut;
· eglurhad ynglŷn â bwriadau Llywodraeth Cymru o ran cynlluniau gostyngiadau'r dreth gyngor yn 2016-17;
· sut mae eich dyraniadau yn y gyllideb ddrafft yn adlewyrchu ymrwymiadau Llywodraeth Cymru ar ddiogelwch cymunedol a chyfiawnder ieuenctid.
Ar gyfer pob polisi, fel y bo'n briodol, hoffai'r Pwyllgor weld:
· manylion am gostau gweithredu'r polisïau hyn yn ystod cyfnod y gyllideb ddrafft a / neu unrhyw waith a wnaed i asesu'r costau hynny;
· gwybodaeth ynglŷn â sut y bwriedir monitro a gwerthuso gweithrediad y polisi, a'r canlyniadau cysylltiedig, i ddangos gwerth am arian.
Mae'r Pwyllgor hefyd yn awyddus i weld sut y mae cydraddoldeb, cynaliadwyedd ac ystyriaeth i'r Gymraeg wedi dylanwadu ar ddyraniadau'r gyllideb.
Gwariant ataliol
Fel y llynedd, mae gan y Pwyllgor ddiddordeb mewn trafod gwariant ataliol fel rhan o'i waith craffu ar gyllideb ddrafft 2016-17. Dyma'r diffiniad o wariant ataliol a fabwysiedir at y diben hwn:
...gwariant sy'n canolbwyntio ar atal problemau ac sy'n lleddfu'r galw am wasanaethau yn y dyfodol drwy ymyrryd yn gynnar, a thrwy hynny sicrhau gwell canlyniadau a gwerth am arian.
Gan gofio'r diffiniad hwnnw, hoffai'r Pwyllgor gael gwybodaeth am y canlynol:
Darparu ar gyfer deddfwriaeth
Hoffai'r Pwyllgor hefyd weld:
· gwybodaeth am y graddau y mae unrhyw ddeddfwriaeth Gymreig sydd wedi'i phasio, neu sydd wrthi'n cael ei phasio, neu y mae wedi'i chynllunio yn y rhaglen ddeddfwriaethol, yn debygol o gael effaith uniongyrchol neu anuniongyrchol ar eich portffolio ym mlwyddyn ariannol 2016-17, yn benodol Bil Llywodraeth Leol (Cymru) a Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.
· gwybodaeth am yr effaith y bydd unrhyw ddarnau o ddeddfwriaeth y DU yn eich maes portffolio yn ei chael ar y gyllideb.